A oes unrhywbeth yn atig eich teulu sy’n dod o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf? Tybed a oes dyddiadur a ysgrifennwyd gan eich hen-daid yn gorwedd mewn bocs yn rhywle? Neu efallai casgliad o lythyrau a roddwyd i gadw yng nghefn rhyw ddrôr amser maith yn ôl? Os felly, mae’r prosiect hwn yn rhoi’r cyfle i chi rannu profiadau eich teulu ac i gofio am aberth eich cyndeidiau yn y rhyfel yr oedden nhw’n gobeithio ‘fyddai’n dod a phob rhyfel i ben’.
Mae diddordeb gennym mewn unrhyw ddeunydd o’r cyfnod sy’n berthnasol i brofiadau’r Cymry yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mewn atgofion a straeon a basiwyd i lawr y cenedlaethau.
Os oes sganiwr neu gamera digidol gennych, gallwch gyfrannu delweddau digidol o’ch eitemau heddiw – cliciwch yma am fwy o wybodaeth neu gliciwch yma i gyfrannu nawr.
Neu fe allwch chi ddod i un o’n sioeau teithiol, gan ddod â’ch eitemau gyda chi i gael eu harchwilio, eu sganio a’u cadw ar gyfer y dyfodol. Wedi i ni gasglu’r deunydd, bydd popeth yn cael ei gatalogio ac yna fe’i roddir ar gael i bawb trwy wefan Casgliad y Werin.
Sefydlwyd Cymry’r Rhyfel Mawr Arlein gan Ysgol Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Caerdydd ac fe’i hariannir gan JISC, y gorfforaeth Brydeinig sy’n arwain y ffordd i ddangos sut i ddefnyddio technoleg gwybodaeth i gefnogi addysg ac ymchwil.
Dewch â’r trysorau teuluol o’r Rhyfel Byd Cyntaf sydd yn eich meddiant er mwyn i ni eu hasesu a thynnu llun ohonynt er mwyn eu rhoi ar gof a chadw ar gyfer y dyfodol. A garech i arbenigwr archwilio’ch creiriau o’r Rhyfel Mawr? A garech wybod y ffordd orau i’w diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol? A ydych am weld beth y mae eraill wedi eu darganfod yn yr atig? Os felly, dewch i un o’n Sioeau Teithiol a gynhelir ar draws Cymru dros haf 2010.